Cymorthfeydd
Pob Dydd Llun a Gwener rwyf i a Bethan Jenkins, AC yn cyflawni cymorthfeydd stryd o gwmpas ardal Gorllewin De Cymru. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n cnocio drysau yn eich ardal chi, a hynny er mwyn gofyn i chi pa faterion sydd o bwys i chi, a sut fedrwn ni eich helpu. Os hoffech i ni drefnu cymhorthfa stryd yn eich ardal chi, plîs cysylltwch â mi.
Rwyf hefyd yn trefnu cymorthfeydd mewn nifer o adeiladau yn y rhanbarth. Os ydych chi yn aelod o fudiad trigolion lleol, grŵp ymgyrchu lleol, neu grŵp ieuenctid sydd am i mi ddod i gynnal cymhorthfa yn eich ardal, yna eto, plîs cysylltwch â mi yn Abertawe ar 01792 646430.

Bethan Jenkins AC a Dr Dai Lloyd AC
